Cerddoriaeth a Hwyl yn y Cyntedd
Mae cerddorion a difyrwyr crwydrol i gyd yn
ychwanegu at y cyffro yn ystod Proms Cymru Caerdydd o’r funud
y cerddwch chi i fyny grisiau Neuadd Dewi Sant.
Peidwich da chi â cholli'r Hwyl!
Ewch i nôl eich hetiau, eich fflagiau,
eich stribynnau a phethau da eraill y Proms o’r cynteddau
cyn ac ar ôl Proms yr hwyr a chyn Prom y Plant.
Cadwch mewn Cysylltiad a mewn Cywair
– dewch yn Gyfeillion mawr
Gewch chi fod yn un o’r cyntaf i wybod
beth sydd ymlaen, cael y llyfryn yn chwilboeth o’r wasg ac
achub y blaen yn codi tocynnau a chael gostyngiadau arbennig y cyfeillion
am ddim ond £14 y flwyddyn! Am ffurflen gais rhowch ganiad
i Wendy Scanlon ar 029 2087 8557 neu daro heibio i www.stdavidshallcardiff.co.uk
Bwyd Fendigedig Fwyd
Rhowch gychwyn ar eich noson gyda phryd o
fwyd blasus cyn y cyngerdd yn ein Bwyty’r Sêr neu darwch
heibio i Art Café Celf am ddewis helaeth o frechdanau, cacennau
a thameidiau. Am ragor o wybodaeth, neu i gadw lle yn y bwyty, rhowch
ganiad os gwelwch yn dda i 029 2087 8463/8450. Rydym ni’n
argymell cadw lle’n fuan.
Cystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru
2006
26 Mehefin-12 Awst 2006 – Lefelau
1, 2 a 4
Yn ei hôl o fawr alw amdani, Cystadleuaeth genedlaethol Artist
y Flwyddyn Cymru, yn rhoi lle amlwg i’r cyfoeth o ddawn artistig
yng Nghymru ac ymhellach draw. Fe’i trefnir gan Orielau Cynteddau
Neuadd Dewi Sant ac mae’r digwyddiad yma’n un o uchelfannau
calendr y celfyddydau gweledol yng Nghymru, yn cynrychioli gwaith
gan dros 140 o artistiaid a chrefftwyr sy’n byw ac yn gweithio
yng Nghymru, neu sydd o dras Gymreig yn byw yn y DU.
Os ydych chi am fwrw’ch pleidlais dros eich hoff beintiad
yng Nghystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru eleni a wnewch chi godi
un o’r ffurflenni pleidleisio o Ddesg Wybodaeth yr Orielau
ar Lefel 2.
Prom Mewn Sgolion Bach
Bydd Drum Blondes yn mynd â pharti Proms Cymru Caerdydd i ysgolion cynradd i rannu’r hwyl a’r chwaraeon cerddorol â chynulleidfaoedd y dyfodol. Bydd y cerddorion sy’n perfformio yn Prom Awr Ginio yn cyflwyno cerddoriaeth fyw i blant cyfnodau allweddol 1 a 2 trwy berfformiadau a gweithdai yn Ysgolion Caerdydd. Cysylltwch â Bryony Harris am ragor
o fanylion ar 029 2087 8573.
Mae "Ffrindiau" yn mwynhau disgownt o 10%
 |