Ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 2087
8444 i archebu eich pecyn.
Achub y blaen yn codi tocynnau a gwneud
arbedion mawr!
Mae codwyr pecynnau hefyd yn cael codi
tocynnau i Prom y Plant, Prom y Byd, y Prom Cenedlaethol Ieuenctid a'r Proms Awr Ginio. Dydi'r Prom Cenedlaethol Ieuenctid ddim ar gael fel dewis cerddirfal mewn pecynnau.
| Proms 7 –
|
Codwch docynnau i bob un o’r 6
o Prom Cerddorfaol a Prom y Byd
y Byd ac arbed 20% |
| Proms 6 – |
Codwch docynnau i 5 o'r Proms Cerddorfael ac ardeb 15% |
| Proms 5 – |
Codwch docynnau i 5 o’r Proms Cerddorfaol ac arbed 10% |
| Proms 4 – |
Codwch docynnau i 4 o’r Proms Cerddorfaol ac arbed 5% |
Dewch â Gwestai – Tocynnau
gwestai i gyngherddau unigol
Beth am brynu tocynnau dros ben am brisiau eich pecyn a gwahodd eich ffrindiau neu’ch teulu i ymuno â chi
yn y cyngerdd? Does rhaid i chi ond dewis pris y cyngerdd i bob tocyn dros ben a thynnu eich disgownt pecyn.
E.e. rydych chi wedi codi Pecyn Proms 5 yn seddi Rheng 9 ac am ddod â ffrind i ymuno â’ch parti i weld
yr Cerddorfa Symffoni Bournemouth – mae tocyn unigol yn Rheng 9 yn £14.50. Tynnwch eich disgownt 10% sef £1.45 – gan hynny mae’r tocyn dros ben yn costio £13.05. (Dydi disgowntiau pecynnau ddim yn berthnasol
i docynnau dros ben yn y categorïau consesiwn).
Mae plant yn Cael mynd am ddim
Cynnig Teulu Rheng 7 newydd ar gyfer 2006
Oedolyn £13.50 – y plentyn 1af (dan 16) AM DDIM. Plant ychwanegol £5 yr un.
(Uchafswm: grwˆp o chwech. Yr uchafswm ydi cymhareb o 2 oedolyn i 1 plentyn)
Cynigir y tocynnau a bwrw’u dob ar gael ar adeg cadw lle.
Os ydych chi am godi Pecyn Proms Teulu a wnewch chi gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.
Codi Tocynnau mewn Grwpiau
A wnewch chi gysylltu â’r Trefnydd
Gwerthiannau Grŵp ar 029 2087 8878.
Codwch docynnau’n fuan i ddyblu’ch disgownt gyda’r
cynllun grwpiau Boregodwyr! (Dydi’r cynnig ddim yn berthnasol
i seddi’r pris uchaf a rhaid talu’n gyflawn am docynnau
grwpiau erbyn 14 Ebrill 2006). Grwpiau o 10 - 19 yn codi tocynnau
cyn 14 Ebrill 2005 pob tocyn £3.00 yn rhatach. Pob tocyn £1.50
yn rhatach ar ôl 14 Ebrill. Grwpiau o 20 neu fwy yn codi tocynnau
cyn 14 Ebrill pob tocyn £5.00 yn rhatach. Pob tocyn £2.50
yn rhatach ar ôl 14 Ebrill.
Consesiynau
Heb fod yn berthnasol i seddi’r pris
uchaf.
Mae gan blant dan 16, myfyrwyr, mynychwyr anabl ynghyd ag un cydymaith,
hawlwyr a deiliaid Cardiau MAX hawl i seddi hanner pris. A wnewch
chi ddod â phrawf fod gennych chi hawl, i’r cyngerdd.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith. Seddi’r
stalau am bris y tocyn rhataf h.y. £9.50 Proms Cerddorfaol yr Hwyr.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant £2.00 yn rhatach am pob tocyn
(mwyafrif o 4 tocyn). Gostyngiad oddi wrth docynnau pris llawn yn
unig. (Amherthnasol i prisiau pecynnau).
.
|