Main
 
Croeso Ar Gip Bwybodaeth Archebu Pecynnau Hwyl yr Wyl Sut i Gael Hyd i ni
   
salway
Cyng Freda Salway
 
Codi Tocynnau dros y Teleffôn
 
029 2087 8444
 
Minicom
029 2087 8881
 
 
 
 
 

CROESO I...
PROMS CYMRU CAERDYDD Lloyds TSB 2006

Dan Gyfarwyddyd Artistig Owain Arwel Hughes OBE, daw Proms Cymru Caerdydd i oed eleni yn dathlu eu pen-blwydd yn un ar hugain. Mae tymor blynyddol poblogaidd Proms Cymru Caerdydd yn un o’r canolbwyntiau yng nghalendr diwylliannol y Ddinas ac mae’n un o nodau amgen Gŵyl Caerdydd, yn cyfuno cerddoriaeth hudolus ag awyrgylch parti na fedrwch chi ddim maddau iddo trwy hyd a lled Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru.

Rydym wrth ein bodd fod Lloyds TSB – sydd ers talwm yn gefnogwyr ac yn noddwyr hirdymor un cyngerdd bob tymor – wedi cytuno ar nawdd teitl tair blynedd o bwys i Proms Cymru Caerdydd sy’n dangos eu hyder a’u hymroddiad a fawr drysorwn.

Gwêl eleni gyfres o gyngherddau symffoni cerddorfaol a chyngherddau teulu godidog gan Bournemouth Symphony Orchestra, BBC Concert Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd, heb sôn am unawdwyr a chorau rhagorol. Yn ogystal mae Neuadd Dewi Sant wrth ei bodd o groesawu London Mozart Players i gyflwyno un o gyngherddau Proms Cymru Caerdydd i ddathlu Deucanmlwyddiant a Hanner geni Mozart.

I gwblhau’r darlun mae gennym Prom y Byd, Proms Awr Ginio a Prom y Plant a daw’r Prom Tidli Prom aruthrol o boblogaidd yn ei ôl ar gyfer aelodau ieuaf ein cynulleidfa;
ac mae yna hefyd Prom Ysgol Fach, un o fentrau Actifyddion Artistig Neuadd Dewi Sant sy’n mynd â Proms Cymru Caerdydd allan i ysgolion cynradd ledled y ddinas.

Gobeithio’n wir y dewch chi i ymuno â ni yn y wledd yma o gerddoriaeth a hwyl i ddathlu ein pen-blwydd yn un ar hugain – dathliad sy’n dangos yn amlwg fod Caerdydd yn llawn haeddu’i galw’n Ganolfan Rhagoriaeth Ddiwylliannol.

Y Cynghorydd Freda Salway
Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd

 

Mae Neuadd Dewi Sant yn eiddo Dinas Caerdydd sy'n ei rheoli ac yn ei hariannu.
   cardiff cc      sdh