Cerddoriaeth a Hwyl y Cynteddau
Mae cerddorion a diddanwyr crwydrol i gyd yn ychwanegu
at y cyffro yn ystod Proms Cymru Caerdydd Lloyds TSB o’r
funud y camwch chi dros drothwy Neuadd Dewi Sant.
Ymunwch yn yr Hwyl!
Gewch chi’ch hetiau, eich fflagiau a’ch stribynnau a phethau
da eraill y Proms o’r siop neu’r stondinau yn y cynteddau cyn
ac yn ystod y Proms gyda’r nos a chyn Prom y Plant.
Bwyd Hyfryd Fwyd
Cychwynnwch eich noson â swper blasus cyn y cyngerdd
yn ein Bwyty’r Sêr neu daro heibio i Art Café Celf lle mae
yna ddewis helaeth o frechdanau, cacennau a diodydd.
Am ragor o wybodaeth, neu i gadw bwrdd yn y bwyty, a wnewch chi roi caniad i 029 2087 8463/8450. Mae’n ddoeth o beth cadw bwrdd yn fuan. Mae Cyfeillion Neuadd Dewi Sant yn cael disgownt o 10%.
Cliciwch yma i lawrlwytho bwydlen sampl [pdf 50k]
Artist y Flwyddyn Cymru 2008
Fe’i sylfaenwyd yn ystod blwyddyn y mileniwm i hybu
a mawrygu’r cyfoeth o allu artistig yng Nghymru ac
mae’r gystadleuaeth bellach ar ei hwythfed flwyddyn.
Neuadd Dewi Sant a’i cychwynnodd ac mae’n cynnig llwyfan gwerthfawr er mwyn i artistiaid arddangos eu gwaith yng nghalon Prifddinas Cymru. Am ragor
o wybodaeth a wnewch chi gysylltu â Ruth Cayford
y Swyddog Arddangosfeydd ar 029 20878706 rcayford@cardiff.gov.uk

 |