 |
|
| |
| Codi Tocynnau dros y Teleffon |
| |
| 029 2087 8444 |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
| |
|
CROESO I...
PROMS CYMRU CAERDYDD Lloyds TSB 2008
Bellach ar ei drydedd flwyddyn ar hugain, dan gyfarwyddyd artistig Owain Arwel Hughes OBE, mae mynd mawr ar dymor Proms Cymru Caerdydd Lloyds TSB ac mae wrth graidd calendr diwylliannol y ddinas ac yn un o nodau amgen Gŵyl Caerdydd, yn cyfuno cerddoriaeth hudol ag awyrgylch parti na does dim maddau iddo trwy hyd a lled Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru.
Eleni mae rhaglen Proms Cymru Caerdydd Lloyds TSB yn well fyth i nodi achlysur dathlu Chwarter Canmlwyddiant agor Neuadd Dewi Sant. Mae tymor 2008 yn cynnig saith cyngerdd symffoni cerddorfaol godidog yn rhoi llwyfan i’r Bournemouth Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, Royal Philharmonic Orchestra, a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru ynghyd ag unawdwyr a chorau eithriadol. Un o uchelfannau’r flwyddyn ddathliadol yma heb os nac onibai fydd y perfformiad o Elijah Mendelssohn, yn rhoi llwyfan i un o feibion chwedlonol Cymru Bryn Terfel, a Rebecca Evans.
I gwblhau’r tymor mae gennym Proms Gwerin, y Gamelan, yr Organ a Prom y Plant, ac at hynny Prom mewn Ysgol Fach ac, wrth gwrs, y Prom Tidli y mae cymaint o fynd arno ar gyfer aelodau ieuaf ein cynulleidfa.

|